Llwybrau Twristiaeth Sir Fynwy
Nod y prosiect Llwybrau Twristiaeth yw datblygu llwybrau amlbwrpas ar draws cefn gwlad Sir Fynwy, sy’n addas i gerddwyr, beicwyr a marchogion; mae’n brosiect ar y cyd gyda Chyngor Sir Fynwy. Fe fydd Cyngor Sir Fynwy yn adnabod llwybrau addas ac yn darparu’r swyddogaeth cynnal a chadw ble bydd angen, ac fe fydd adventa’n marchnata ac yn hyrwyddo’r llwybrau.
Mae’r prosiect Llwybrau Twristiaeth wedi’i anelu at:
- Ymwelwyr i Sir Fynwy: llwybrau amlbwrpas i annog ymwelwyr i brofi prydferthwch Sir Fynwy ar geffyl, ar feic neu ar droed. Fe fydd y llwybrau oddi ar yr heol ac yn rhydd o rwystrau ble’n bosib.
- Cymunedau Lleol: fe fydd y Llwybrau Twristiaeth hefyd o les i gymuneda
u lleol, yn adnabod llwybrau ac yn gwella cyfleusterau. Anogir y gymuned leol i gymryd rhan. - Busnesau Lleol: fe fydd llwybrau’n tanlinellu busnesau lleol, gan gynnwys llety, darparwyr bwyd a busnesau marchogaeth/seiclo, gan annog mwy o wariant lleol.
Am fwy o wybodaeth ar Lwybrau Twristiaeth Sir Fynwy, cysylltwch â Becky Hughes neu Zara Bligh

