


Mae adventa yn bartneriaeth leol o fudiadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol/cymunedol, ac mae’n datblygu ac yn rheoli Rhaglen Datblygu Gwledig y sir. Prif ffocws adventa yw gweithio gyda mentrau a busnesau lleol a helpu gwella a chryfhau’r busnesau hyn sydd ar waith yn Sir Fynwy.
Mae tîm adventa yn gweithio o Ganolfan Busnes Gwledig Sir Fynwy, Y Bryn, ger Y Fenni.
Unrhyw fusnes neu entrepreneur unigol sydd â’i sylfaen yn Sir Fynwy ac sy’n gysylltiedig â:
Chynhyrchu bwydydd neu ddiodydd
Lletygarwch
Twristiaeth
Celf a chrefft
Pren
Yn ychwanegol at hyn, mae adventa hefyd yn gweithio gyda:
Pherchnogion coetiroedd, coedwigoedd a pherllannau
Trefnwyr gwyliau a digwyddiadau Sir Fynwy
Cymunedau sydd â diddordeb mewn datblygu llwybrau lleol
Gellir cael gwybodaeth am brosiectau sydd wedi bod ar waith yn y gorffennol o dan adrannau perthnasol y wefan hon.